Y
Drenewydd
Ennill
bywoliaeth
Crefftau: crydd i saer pres | ||
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf |
Mae Cyfeirlyfr Slater, 1858 yn rhestru’r masnachwyr lleol a weithiai yn yr ardal yn y cyfnod hwnnw. Mae llawer o’r masnachau hyn i’w gweld heddiw (fel cigyddion a gofaint), ond mae llawer wedi diflannu. Mae nifer helaeth o’r pethau a brynwn ni yn ein siopau lleol heddiw wedi’u cynhyrchu mewn ffatrïoedd mewn gwlad arall. Roedd cludo nwyddau yn llawer mwy araf ac anodd yn nechrau cyfnod Fictoria. Oherwydd hynny roedd llawer mwy o’r pethau angenrheidiol yn cael eu cynhyrchu’n lleol gan grefftwyr medrus, yn ddynion a merched, fel cryddion er enghraifft (uchod). Gwnaethent esgidiau cryfion mawr i ddynion a weithiai yn yr awyr agored. Doedd yna ddim welingtons yr amser hynny!
Roedd seiri pres a thun yn grefftwyr a gynhyrchai bethau wedi’u gwneud o bres a thun. Yn y dyddiau cyn-blastig defnyddiwyd y rhain i wneud llawer o’r cynhwysyddion. |