Y Drenewydd
Ennill bywoliaeth
  Crefftau: gof i lyfrwerthwr  
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf

extract from Slater's DirectoryRoedd Gofaint yn chwarae rhan bwysig iawn yng nghyfnod Fictoria. Cyn dyddiau peiriannau trydan cymhleth byddai’r gof lleol yn gallu trwsio’r rhan fwyaf o beiriannau. Byddai ffermwyr yn dod â’u hoffer i’r efail i’w trwsio, ac yn aml iawn byddai’r gof yn ffarier hefyd ac yn pedoli ceffylau. Gan fod miloedd o geffylau’n gweithio ar y tir roedd y gof yn ddyn prysur iawn.

Mae’r rhan hwn o’r Cyfeirlyfr yn dangos inni fod llyfrwerthwyr yn gwerthu (ac weithiau’n rhoi benthyg) llyfrau i’r bobl hynny fedrai ddarllen. Roedd llawer o ysgrifennu llythyrau a gellid prynu papur, inc a phinnau ysgrifennu mewn siop bapurau. Erbyn diwedd cyfnod Fictoria roedd llawer iawn o bobl yn medru darllen, diolch i’r twf mewn addysg.

 

Yn ôl i ddewislen Enill Bywoliaeth

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd