Y Drenewydd
Ennill bywoliaeth
  Crefftau: amaethyddol at fasgedwyr
 
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf

extract from Slater's DirectoryMae’r rhan hwn o Gyfeirlyfr Slater yn dangos rhai o’r bobl gyffredin oedd yn chwarae rhan bwysig yn y gymuned.

Mewn ardal mor amaethyddol â hon, nid yw’n syndod fod crefftwyr lleol yn arbenigo mewn gwneud offer amaethyddol yn yr efail.
Yn ystod cyfnod cynnar Fictoria lluniwyd a thrwsiwyd yr offer yn lleol. Er bod llawer o bobl yn pobi’u bara eu hunain yr adeg honno, roedd llawer o bobyddion lleol a oedd yn pobi bara gan ddefnyddio blawd o’r melinau blawd lleol. Roedd bara’n bwysig iawn i deuluoedd tlawd. Gallent ymdopi heb gig ond nid heb fara!

Roedd Basgedwaith yn grefft arall bwysig iawn yn Oes Fictoria. Cyn oes y ceir a’r archfarchnadoedd roedd yn rhaid cludo pethau o gwmpas efo llaw neu ar gefn ceffyl. Doedd yna ddim plastig felly roedd basgedi wedi’u gwneud allan o ddeunyddiau lleol yn ddefnyddiol iawn.

 

Yn ôl i ddewislen Enill Bywoliaeth

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd