Y
Drenewydd
yn yr oes Fictoria
Diwrnod Marchnad yn Broad Street, Y Drenewydd | ||
This Mae hwn yn llun arall Fictoraidd
diddorol wedi’i dynnu ar Ddiwrnod Ffair neu ddiwrnod
marchnad tua 1888. |
Broad
Street
Y Drenewydd tua 1880 |
Mae llawer o luniau tebyg i’r rhain, a dynnwyd tua diwedd Oes Fictoria, yn bwysig am eu bod yn llawn o wybodaeth werthfawr am fywyd y cyfnod, gan eu bod wedi llwyddo i gofnodi cymaint o fanylion. Roedd y camerâu cynnar a ddefnyddiwyd i dynnu lluniau fel hyn yn fawr iawn, ac wedi’u gwneud o bren wedi’i gaboli gyda rhannau pres a meginau lledr y gellid eu haddasu yn ôl yr angen. Nid oeddynt yn defnyddio rôl fechan o ffilm fel camerâu modern, ond roeddynt yn defnyddio platiau gwydr mawr a oedd yn dal un llun yn unig. |