Y Drenewydd
yn yr oes Fictoria
  Ffair wartheg yn High Street, Y Drenewydd yn 1880  
 

Tynnwyd yr hen lun ardderchog hwn o Ddiwrnod Ffair prysur yn High Street, Y Drenewydd, tua 1880.
Ar un adeg roedd yn arferiad i gynnal marchnad wartheg neu geffylau, neu werthiant anifeiliaid ym mhrif stryd trefi marchnad mewn ardaloedd gwledig. Fel y gwelwch o’r llun hwn, byddai yno stondinau marchnad yn gwerthu bwydydd a nwyddau eraill hefyd.

 
Ffair wartheg
yn High Street,
Y Drenewydd
tua 1880
Cattle market in High Street
  Gallwch weld fod y Diwrnodau Ffair yma’n troi’r dref i fod yn lle bywiog gyda llawer o bethau diddorol yn digwydd.
Roedd cofnodion swyddogol ysgolion gwledig yn ystod Oes Fictoria’n llawn cwynion cyson am blant oedd yn absennol o’r ysgol am ei bod yn Ddiwrnod Ffair yn lleol, ac mae rhai bechgyn lleol i’w gweld yn y llun yma!
Nid oedd yn syniad da i barhau i gynnal marchnad anifeiliaid yng nghanol y brif stryd gyda dyfodiad cerbydau modur ar ôl diwedd Oes Fictoria. Dechreuwyd codi marchnadoedd gwartheg arbennig yn y rhan fwyaf o drefi marchnad, gyda mannau caeëdig i sicrhau na fyddai anifeiliaid yn crwydro ar hyd y lle!
.
 
 

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd