Y Drenewydd
yn yr oes Fictoria
  Broad Street, Y Drenewydd yn 1880  
 

Llun a dynnwyd yn 1880 yw’r olygfa hon o’r ‘Long Bridge’ yn Y Drenewydd. Mae’n edrych i gyfeiriad y de ar hyd Broad Street, ac o’r llun gallwn weld fod yr enw a roddwyd iddi yn un da.
Mae’r llun yn dangos yn glir sut y cafodd y Long Bridge ei lledu yn 1857 er mwyn gwneud lle i bobl oedd am gerdded dros y bont yn ogystal â cherbydau a cherti a dynnwyd gan geffylau. Mae mwy am ledu’r bont ar dudalen arall yn y gyfres hon.

 
Broad Street
Y Drenewydd
yn 1880
Broad Street, 1880
  Yr adeilad cyntaf ar y chwith dros y Bont Hir oedd Gwesty’r Elephant and Castle gyda’i bortsh yn cael ei gynnal gan bileri.
Yr adeilad mawr gwyn ym mhen pellaf Broad Street oedd y Royal Cambrian House wrth ‘The Cross’. Yma roedd busnes dilladu llwyddiannus lle dechreuodd Pryce Jones ddysgu’r grefft fel prentis yn 1846.
Roedd yr olygfa hon o Broad Street yn mynd i newid pan ddymchwelwyd yr adeilad hwn a chodi twr cloc mawr a oedd yn rhan o’r adeilad newydd yn y ‘Cross’. Dechreuwyd arno yn 1898 i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Fictoria, a chafodd ei agor yn 1900.
.
 
 

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd