Y
Drenewydd
yn yr oes Fictoria
Broad Street, Y Drenewydd, yn 1846 | ||
Mae’r olygfa hon o Broad
Street, Y Drenewydd wedi dod o lun a gafodd ei wneud tua 1848.
Mae’n edrych i’r de ar hyd y stryd o islaw’r Bont Hir dros yr Afon Hafren.
|
Broad
Street
Y Drenewydd tua 1848 |
||
Ar
Fap y Degwm 1848
dangosir yr hen Neuadd Farchnad yng nghanol Broad Street |
Gallwch
weld yr hen Neuadd Farchnad yng nghanol
Broad Street. Ni fu yno’n hir ar ôl tynnu’r llun hwn, am iddi gael ei dymchwel
yn 1852. Roedd gan drefi marchnad eraill megis Rhaeadr-Gwy adeilad fel hwn ar ganol y brif stryd hefyd, ond cafodd y rhan fwyaf ohonynt eu tynnu i lawr i wneud lle i’r cynnydd mewn traffig yn ddiweddarach. Un o’r unig rai prin sydd ar ôl yw’r hen neuadd farchnad yng nghanol tref Llanidloes. Yr adeilad ar y chwith â’r portsh yn cael ei gynnal gan bileri yw Gwesty’r Elephant and Castle, a ddechreuodd fel tafarn goetsis a thy postio ar ddechrau’r 19fed ganrif. . |
||