Y
Drenewydd
Trosedd a Chosb
Alltudio dros y môr | ||
Yn ystod yr 1840au roedd gweithwyr cyffredin Y Drenewydd yn dioddef caledi mawr. Roedd y rhai a weithiai yn y ffatrïoedd gwlân yn cael amser arbennig o galed. Byddai rhai o’u cyflogwyr yn eu gorfodi i brynu’u bwyd mewn siop oedd yn perthyn i’r cwmni, ac roedd y prisiau yn uchel. Weithiau byddent yn gorfod gadael y ffatri i weithio’n ddi-dâl ar dir perchennog y ffatri. Pe byddent yn cwyno am hyn gallent golli’u gwaith ac yna byddai’r holl deulu’n gorfod mynd i’r tloty neu’r wyrcws. |
Nid oedd yn syndod yn y byd felly bod rhai pobl yn troi at droseddu yn eu hanobaith. Yn 1843, torrwyd i mewn i dy Rheithor Llanllwchaearn gan Thomas Owen, a chafodd 3 desg ysgrifennu, tun te, torth o siwgr (bloc mawr), gwn a chist de eu dwyn ganddo. Aeth heddwas lleol, Mr Baird, ar ei ôl a daliwyd ef mewn coed yr ochr arall i’r afon. Dedfryd y llys oedd alltudio Thomas Owen ddeng mlynedd. Anfonwyd ef i weithio mewn cadwyni yn y gwladfeydd cosb yn Awstralia. Mae’n bur debyg na ddaeth byth yn ôl i Sir Drefaldwyn. Anfonwyd dau arall i Awstralia yn ystod yr un gwrandawiad llys. |