Y Drenewydd
yn yr oes Fictoria
  Gwesty’r Bear yn Broad Street  
 

Roedd y llun hwn yn un o set o gardiau post a gynhyrchwyd ar gyfer ymwelwyr â’r Drenewydd. Llun ydyw o Westy’r Bear yn Broad Street, a arferai gael ei alw’n ‘Bear's Head’. Gellir gweld rhannau o’r hen dafarn hon, a’r hen arwydd yn hongian ar flaen chwith y llun a dynnwyd yn 1888 o ddiwrnod marchnad yn Broad Street ar dudalen arall.

 
Gwesty Bear
Broad Street
Y Drenewydd
tua 1890
The Bear Hotel, Newtown
 

Robert OwenNid oes neb yn siwr pa bryd y tynnwyd y llun hwn, ond mae’n bur debyg mai oddeutu 1890 oedd hynny.
Yn ymyl y fan hon yn 1771, ganwyd Robert Owen, a ddaeth yn enwog am weithio’n galed trwy’i fywyd i wella bywydau ac amodau gweithwyr cyffredin. Daeth yn ôl i’r Drenewydd ym mlwyddyn olaf ei fywyd, a bu farw yn yr adeilad hwn yn 1858.
Mae cofgolofn i Robert Owen yn y dref, yn ogystal ag amgueddfa yn dangos yr holl bethau nodedig y llwyddodd i’w gwneud.

 

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd