Machynlleth
Ennill bywoliaeth
Cyfeirlyfr Worrall, 1874 – gwneuthurwyr gwlannen |
Geirfa
|
|
Mae’r darn sy’n cyfeirio at Fachynlleth a’r cyffiniau yng Nghyfeirlyfr Worrall ar Ogledd Cymru, 1874 dal i gynnwys fferyllwyr, cwperiaid (oedd yn gwneud bareli pren), a rhai sy’n trin crwyn. Ond mae’r cludwyr a’r ceirt bellach wedi diflannu o’r rhestrau ‘C', gan eu bod wedi mynd allan o fusnes oherwydd y rheilffyrdd newydd. |
Fferyllwyr – un sy’n gwybod sut i gymysgu moddion neu gyffuriau i wella pobl | |
Mae’r
cyfenwau’n dod gyntaf ar y rhestrau yma !
|
Er hynny,
mae Gwerthwyr glo ar y rhestr, a sylwch fod y rhan fwyaf o’r rheini a welwch wedi’u lleoli yn y gorsafoedd rheilffordd, oherwydd bod y rheilfordd yn ei gwneud yn llawer iawn haws i symud a chludo nwyddau trwm a swmpus fel glo. Ond roedd yn rhaid cludo’r glo cryn bellter o pyllau glo yn Ne Cymru a llefydd eraill. Yn y dyddiau cynnar defnyddiwyd y tramffyrdd a’r camlesi. |
|
Newid wnaeth
y diwydiant gwlannen, yn debyg iawn i bethau eraill wrth i’r rheilffordd ddod i’r ardal. Roedd y cludiant newydd yn golygu fod dillad parod wedi’u cynhyrchu’n rhatach mewn fatrioedd yng ngogledd Lloegr yn cael eu gwerthu yn y siopau lleol. Roedd y pyllau glo wrth ymyl y ffatrïoedd yn Swydd Efrog ac roeddynt yn gallu defnyddio peiriannau oedd yn gweithio ar bwer stêm yn y melinau gwlannen lleol. Nid oedd y diwydiant o amgylch Machynlleth yn gallu cystadlu gyda’r pris ac felly roedd dydd melinau gwlannen ar fin dod i ben. |
Mae 14 o enwau ar restr 1874 o wneuthurwyr gwlannen, ond roedd yna 21 o enwau pan cafodd ei brintio cyn hynny yn 1858. Roedd 5 panwr yn 1858 ond dim ond 2 erbyn 1874. |