Machynlleth
Ennill bywoliaeth
Cyfeirlyfr Slater, 1858 – gwlanen a phlwm | ||
Mae’r
enghreifftiau a ddangosir yn dod o’r darn ynglyn â Machynlleth yng Nghyfeirlyfr
Slater o Ogledd Cymru, 1858. |
Mae’r
cyfenwau’n dod gyntaf ar y rhestrau yma !
|
||
Mae
21 o wneuthurwyr gwlanen wedi’u cynnwys ar y rhestr yma, a phum panwr. Roedd y broses gwneud gwlanen yn cynnwys rhannu, gwehyddu a gweu’r gwlân lleol yn ddefnydd gryf. Roedd y defnydd yn cael ei drochi mewn dwr cynnes gan ddefnyddio pridd pannu i wneud y defnydd yn fwy trwchus ac i lanhau’r defnydd. |
Y pennawd sydd braidd yn od i ni heddiw yw llosgwyr calch. Roeddynt yn defnyddio odynau calch a adeiladwyd yn arbennig i losgi glo a chalch gyda’i gilydd er mwyn cynhyrchu calch i ddefnyddio fel gwrtaith amaethyddol neu fel mortar i’w ddefnyddio ar gyfer adeiladu. |