Machynlleth
Trosedd a chosb
Mwy am…
Achos Mary Tibbott
Geirfa
 

Quarter Sessions entry.Mae’r darn yn dangos bod Mary Tibbott wedi ei chyhuddo o ddau drosedd (Mae’r ddwy ‘f’ yn y gair ‘flannel’ yn ffordd hen ffasiwn o ysgrifennu F fawr)

Mae’r darn yn darllen:
"For stealing a Flannel in the course of Manufacture and for Simple Larceny".

Darn o ddefnydd gwlân wedi ei weu ar beiriant gwehyddu yw flannel. Roedd Sir Drefaldwyn yn enwog am ei diwydiant flannel. Mae’r darn nesaf o gofnodion y llys yn dangos beth ddigwyddodd nesaf….

Tystiolaeth – gwybodaeth sy’n profi rhywbeth

Cyhuddiad – yr hyn y cyhuddir rhywun ohono mewn llys

 
 
   
 

Mae’n darllen:
"Prisoner pleads Guilty to the charge of simple larceny. Jury say not guilty of the Special Charge".
Mae hyn yn dangos nad oedd digon o dystiolaeth, felly penderfynodd y rheithgor nad oedd yn euog o’r Cyhuddiad Arbennig.
Beth ddigwyddodd i Mary Tibbott yn 1840 ? ….

Mae mwy ar yr achos ar y dudalen nesaf.

 
 

Ewch i ddewislen trosedd Machynlleth

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Machynlleth