Machynlleth
Bywyd ysgol
Eira trwm yn gorchuddio’r tir | ||
Heddiw mae plant cefn gwlad yn cael eu cludo i’r ysgol mewn car neu ar fws. Ond roedd pethau braidd yn wahanol yn ystod cyfnod Fictoria, ac roedd tywydd gwael yn llawer iawn mwy o broblem. Roedd y rhan fwyaf o blant yn gorfod cerdded milltiroedd i’r ysgol. I blentyn pedair oed roedd cerdded i’r ysgol ac yn ôl o’r ysgol mewn glaw trwm, yn aml iawn yn y tywyllwch ar hyd ffyrdd mwdlyd yn waith anodd dros ben. |
Mae’r darn hwn o ddyddiadur ysgol
Derwenlas ar gyfer 20fed Rhagfyr 1886 yn dweud: Nid oedd esgidiau i gael gan rai o’r plant tlawd ac roedd eu rhieni ddim am weld eu plant yn mynd i’r ysgol os oeddynt yn mynd i wlychu a mynd yn sâl. Mae mwy am hyn ar y dudalen nesaf…. |
||