Machynlleth
Ennill bywoliaeth
  Cyfeirlyfr Slater, 1868
Geirfa
Cliciwch yma er mwyn cymharu’r rhain gydag enghreifftiau 1858.

Mae’r enghreifftiau a ddangosir yma yn dod o gyhoeddiad o Gyfeirlyfr Slater ar Ogledd Cymru yn 1868 – deng mlynedd yn ddiweddarach na’r llall a ddangosir ar y tudalennau hyn.
Gan fod y diwydiannau cynhyrchu gwlanen a chloddio plwm mor bwysig yn yr ardal, mae’n ddiddorol i gymharu’r enghreifftiau dros y 10 mlynedd. Roedd 21 o wneuthurwyr gwlanen wedi’u rhestru yn 1858, ond dim ond 16 yn 1868.

bloneg – braster sydd ar anifeiliaid
 
Mae’r cyfenwau’n dod gyntaf ar y rhestrau yma !

Gwneuthurwyr gwlannen,1868

masnachwyr plwm,1868
 

Mae’r rhestr o fasnachwyr plwm fwy neu lai union yr un peth oni bai am Gwmni Cloddio Dylife sydd wedi ymuno yn y rhestr. Roedd cynhyrchiant y gwaith ar ei uchaf yn gynnar yn yr 1860'au a thyfodd cymuned o fwy na 1000 o bobl o amgylch y gwaith. Dechreuodd y cynhyrchiant fynd i lawr tua 1868, pan gafodd y cyfeirlyfr hwn ei brintio.

Yn ystod cyfnod Fictoria roedd y teilwriaidr yn gwneud y siacedi, crysau a throwsusau ar gyfer pobl leol yn eu gweithdai neu gartrefi. Dim ond yn ddiweddarach y cafodd dillad eu gwneud mewn ffatrïoedd mawrion.

Teilwyr,1868
canhwyllwyr,1868Roedd y canhwyllwyr yn gwerthu’r math rhataf o ganhwyllau a bariau o sebon oedd yn dod o floneg anifeiliaid.
 

Ewch i ddewislen ennill bywoli Machynlleth

Back to top
Ewch i ddewislen Machynlleth