Machynlleth
Trosedd a chosb
Mwy am…
Y Trywanu ym Machynlleth, 1878…(tudalen 3)
Geirfa
  Gwelodd Mr Evan Morgan, gweithiwr yn y ffowndri haearn lleol yr ymosodiad. Dywedodd yn ei dystiolaeth ei fod wedi gweld Gabriel Davies yn llusgo ei fab ar hyd y llawr wrth ei goler gan ei fwrw ar draws ei ben gyda ffon gryf.
Gwelodd Rowland Wood yn ceisio stopio Davies a hefyd gwelodd yr ymosodiad a ddaeth wedyn. Mae yna ragor o dystiolaeth –
tystiolaeth – unrhyw wybodaeth sy’n wir ac yn profi ffaith
 
 
  Quarter Sessions entry
 

Mae’r darn hwn yn y cofnod swyddogol yn dweud:
"A cry was made and I saw something shining in the prisoner’s hand. I could see it in the light of the gas lamp…"

Aethant â Rowland Wood adref a galwyd meddyg ato. Gwelwyd fod ganddo glwyf o ryw dair modfedd o ddyfnder (tua 7.5 cm). Fe wnaeth Mr Wood wella ond bu’n rhaid iddo gerdded gyda help ffon am sawl wythnos ar ôl yr ymosodiad.

Mae mwy o dystiolaeth am yr achos hwn.

 
 

Ewch i ddewislen trosedd Machynlleth

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Machynlleth