Machynlleth
Trosedd a chosb
Mwy am...
Y trywanu ym Machynlleth, 1878…(tudalen 4)
 

Roedd gan Cwnstabl Edward Hamer ragor o dystiolaeth am yr achos. Rhedodd Gabriel Davies i ffwrdd ar ôl yr ymosodiad y noson honno. Rhaid ei fod wedi dal trên allan o Fachynlleth. Aeth Cwnstabl Hamer ar ei ôl i chwilio amdano.

Roedd yn haws sylwi ar rywun dieithr yn crwydro o amgylch cefn gwlad Powys yn ystod cyfnod Fictoria, ac felly llwyddodd yr heddlu i ddod o hyd i Davies yn rhan arall o Bowys yn Sir Faesyfed.
Daeth Cwnstabl Hamer o hyd iddo mewn tafarn yn Gwyster ger Llandrindod, gan ei arestio ef yno. Wrth iddynt fynd â Gabriel Davies i ffwrdd mewn cyffion cyfaddefodd Gabriel iddo ymosod ar ei fab a Rowland Wood. Mae ei ddatganiad yn cofnodi yr hyn ddywedodd wrth Gwnstabl Hamer….

 
  Quarter Sessions entry
 

Mae’r darn o’r cofnodion yn anodd i’w ddarllen, ond mae’n dweud: "prisoner then said "Well Well I am done for now. I shall be transported for life." I afterwards charged him…

Mae rhan olaf yr achos hwn ar y dudalen nesaf..

 
 

Ewch i ddewislen trosedd Machynlleth

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Machynlleth