Machynlleth
Trosedd a chosb
Mwy am...
Y trywanu ym Machynlleth...(tudalen 5)  
  Roedd Gabriel Davies yn gwybod pa mor ddifrifol oedd y trosedd, er doedd e ddim yn iawn am yr alltudio. Erbyn 1878 nid oedd troseddwyr yn cael eu halltudio i garchardai mewn gwledydd pell. Mae’r datganiad swyddogol yn dweud i Davies ddweud….  
  Quarter Sessions entry
 

Mae’r darn o’r cofnodion yn dweud….
"I hit him the first place that I had the chance but it was all through drunkenness" and then began to cry."

Er iddo gyfaddef ei fod yn euog o flaen Cwnstabl Hamer, plediodd yn "Not Guilty" yn yr achos llys. Ond roedd y rheithgor yn meddwl fel arall ac mae’r hen ddogfennau yn cofnodi’r gosb a gafodd…

 
  Quarter Sessions entry
 

"Ordered that the above named prisoner Gabriel Davies be confined in Her Magesty’s Prison at Shrewsbury and there kept to hard labour for nine calendar months"

Roedd llafur caled mewn carchar yn ystod cyfnod Fictoria yn wir yn galed iawn! Talodd Gabriel Davies bris uchel iawn am ei ymddygiad meddw.
.

 
 

Ewch i ddewislen trosedd Machynlleth

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Machynlleth