Machynlleth
Bywyd ysgol
  Bant â ni i’r ffair ym Machynlleth…  
 

Yng nghefn gwlad yn ystod cyfnod Fictoria ychydig iawn o adloniant oedd ar gael i bobl. Felly roedd pobl yn edrych ymlaen yn fawr at unrhyw achlysur pan oedd pobl yn dod at ei gilydd. Roedd digwyddiadau fel hyn yn golygu fod llawer o blant yn absennol.

Mae dyddiadur Derwenlas yn 1887 yn sôn am un o’r digwyddiadau hyn…

 
 
 

Mae’r darn hwn o ddyddiadur yr ysgol yn darllen:
"Today a large and popular fair is held in Machynlleth; the school was opened in the afternoon, but in consequence of the fair only twelve were present; they were dismissed and the school was closed."

Roedd plant hefyd yn absennol yn aml iawn o achos ffeiriau prynu gweision, dathliadau Jiwbili, marchnadoedd da byw, arwerthiant ac eisteddfodau. A hefyd o achos cyfarfodydd crefyddol……

Bant o’r ysgol o achos y cyfarfod capel

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Machynlleth..

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Machynlleth