Machynlleth
Bywyd ysgol
Mwy am..
Afiechydon a oedd yn gallu lladd  
 

Yn ystod cyfnod Fictoria nid oedd gan feddygon y cyffuriau modern sydd ar gael heddiw i ymladd yn erbyn salwch. Roedd afiechydon fel diptheria, y dwymyn goch, y pâs a’r frech goch yn aml iawn yn lladd plant.

Roedd afiechydon fel hyn yn digwydd mor aml fel bod yr ysgolion pentref yn aml iawn yn gorfod cau bob yn awr ac yn y man er mwyn atal yr afiechydon rhag lledaenu. Yr enw a roddir ar afiechyd sy’n lledaenu’n gyflym yw epidemig.

 
 
 

Mae un enghraifft ddramatig iawn yn gwweld ysgol Derwenlas yn cau am bedair wythnos yn olynol yn Hydref a Thachwedd, 1891 achos bod y frech goch wedi dod i’r ardal.

Mae enghreifftiau o ba mor beryglus oedd yr afiechydon hyn yn gallu bod yn ystod cyfnod Fictoria ar y dudalen nesaf….

Trychineb yn Darowen yn 1892

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Machynlleth..

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Machynlleth