Machynlleth
Mapiau Fictoriaidd
  Comins Coch yn 1903
Geirfa
 

hafnau – hollt yn y tir, cwm cul iawn
 
 
 

Mae’r map a welwch chi sydd wedi’i wneud yn fwy yn dod o fap Arolwg Ordnans a gynhyrchwyd ar ddiwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Mae’r gymuned wedi tyfu rhyw ychydig ond nid oes llawer iawn mwy o dai nag yr oedd yno ar fap 1837. Mae’r felin bannu (Pandy) yn dal i weithio ar lan yr afon. Er hynny, mae yna ddau newid mawr wedi digwydd yn y gymuned ers cyfnod Fictoria y gellir eu gweld ar y map.

 
Mae’r rheilffordd wedi dod i’r ardal, gan ddefnyddio’r un dyffryn â’r ffordd. Roedd yn meddwl fod gan Fachynlleth bellach gyswllt gyda threfi a dinasoedd pell. Roedd angen llawer iawn o waith trefnu a llawer o weithwyr er mwyn adeiladu’r rheilffordd. Yn y rhan fechan honno o’r dyffryn mae rheilffordd y Cambria yn croesi’r afon ddwywaith. Roedd hyn achos doedd y rheilffordd ddim yn medru troi corneli ac felly roedd periannwyr yn gorfod defnyddio hafnau a phontydd er mwyn i’r llinell rheilffordd droi tro yn hawdd.
 
 

Hefyd mae’r map yn dangos fod yna ysgol yn y pentref wrth ymyl y ffordd. Erbyn diwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria fe fyddai pob plentyn lleol yn mynd i’r ysgol hyd nes oeddynt yn 13. Roedd y rhan fwyaf o blant lleol yn treulio eu bywydau cyfan fel disgyblion ysgol yn yr un adeilad bach hwn. (Er mwyn dysgu mwy am fywyd ysgol yr ardal yn ystod oes Fictoria, cliciwch yma).

Map o Gomins Coch yn 1903

 
 

Ewch yn ôl i ddewislen map Machynlleth
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Machynlleth