Machynlleth
Mapiau Fictoriaidd
Comins Coch yn 1837 |
Geirfa
|
|
arfordir
– y tir sydd ar lan y môr melin bannu - lle yr oedd defnydd yn cael ei wneud dyrnu – gwahanu’r grawn oddi wrth y gwellt trwy guro’r yd |
||
Mae’r darlun a welwch chi yn ddarn o fap Arolwg Ordnans sydd wedi ei wneud yn fwy ac yn dyddio yn ôl i 1837. Mae’n dangos dyffryn cul Afon Twymyn a’r gymuned fechan sydd ar lannau’r afon. Tyfodd y gymuned hon yma achos mai dyma’r brif lwybr trwy Fynyddoedd Cambria i Fachynlleth a’r arfordir, ac yn y fan hon roedd y ffordd dyrpeg yn croesi’r afon. |
||
Pandy neu felin bannu yw’r adeilad sydd wedi’i nodi Pandy ar y map. Roedd melinau dwr yn nodwedd bwysig yn nhirwedd Sir Drefaldwyn yn ystod oes Fictoria. Roeddynt yn defnyddio ynni dwr yr afon i droi olwyn y felin. Yna byddai cogs ac olwynion a beltiau a oedd ynghlwm wrth y felin yn gwneud i’r peiriannau droi. Roedd rhai melinau yn gyrru cerrig malu er mwyn dyrnu yd, ac roedd rhai eraill yn gyrru peiriannau gwehyddu er mwyn gwe defnydd. Roedd y felin hon yn gyrru morthwylion pren er mwyn i gemegyn o’r enw "fuller’s earth" gael ei roi i mewn i’r defnydd gwlân i’w lanhau. |