Machynlleth
Trosedd a chosb
  Achos Mary Tibbott
Geirfa
  Ym mis Gorffennaf 1840 daeth Mary Tibbott, gwraig weddw o Lanbrynmair o flaen Sesiynau Chwarter Trefaldwyn wedi ei chyhuddo o ladrata. Gwraig Weddw – gwraig sydd wedi colli ei gwr am ei fod wedi marw
  Quarter Sessions entry Lladrata – dwyn pethau personol rhywun arall
Erlyn – y rhai sy’n cyhuddo, neu’n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn rhywun mewn llys.
 
 
 

Mae’r darn o gofnodion y llys yn darllen:
"The Queen on the Prosecution of William Howell against Mary Tibbott late of the Parish of Llanbrynmair in the County of Montgomery, Widow."

Mae’r iaith sydd yn swyddogol iawn yn dangos pa mor ddifrifol oedd y llys ynghylch â’r achos . Bwriad y llys oedd bod y rheini oedd yn cael eu cyhuddo o drosedd i deimlo fod y rhai oedd yn erlyn yn gweithredu ar ran y Frenhines ei hun. Cyhuddwyd Mary o ddwyn oddi wrth ddyn o’r enw William Howell.
Mae mwy am yr achos yma ar y dudalen nesaf…

Mwy am yr achos Mary Tibbott..

 

Ewch i ddewislen trosedd Machynlleth

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Machynlleth