Llanwrtyd a’r Cylch
Ennill bywoliaeth
  Melinau Gwlân  
 

Ardal Sir Drefaldwyn ym Mhowys oedd yn cynhyrchu gwlanen mwyaf yn oes Fictoria. Roedd melinau gwlân yn y Drenewydd, Llanidloes a’r Trallwng oedd yn cynhyrchu llawer iawn o frethyn oedd yn mynd i drefi yn Lloegr trwy ddefnyddio cysylltiadau da ar y camlesi, ac yn ddiweddarach ar y rheilffordd.
I gymharu â hyn, roedd gogledd sir Frycheiniog yn anhysbys ac yn fynyddig a phoblogaeth fach oedd yn byw yno. Serch hynny, roedd defaid yn pori ar y mynyddoedd, ac roedd pobl leol yn awyddus i wneud yr hen a gallent o’r cnydau.

  As Yn ogystal â’r gwehyddion oedd yn gweithio ar fframiau gwau yn eu cartrefi, roedd dwr yn rhoi pwer i felinau gwlân yn ardal Llanwrtyd.
Y rhain oedd:
Melin Cambria - i’r gogledd o Lanwrtyd
Melin Tynewydd ar yr afon Annell ger Llangammarch
Melin Esgairmoel ar afon Cledan i dde-dwyrain Llanwrtyd
Ffatri Wlân Dolaeron ar y Camarch ym Meulah
 
  Yn yr ardal hon, oedd yn brin iawn ei phoblogaeth, roedd yn rhaid i berchnogion melinau fod yn hyblyg. Weithiau byddai’r ffermwyr yn gofyn i’r felin droi’r cnydau yn frethyn ac yn rhoi rhai o’r cnydau i’r felin fel tâl. Weithiau byddai’r felin yn prynu’r cnydau oddi wrth y ffermwyr lleol ac yn eu troi yn frethyn i’w gwerthu. Roedd y felin yn Esgairmoel (ar y dde) yn gwerthu’r brethyn a’r blancedi ym marchnad Llanfair ym Muallt.
 


Roedd ffatri Esgair Moel yn defnyddio dwr i bweru’r peiriannau nyddu, cribo a gwehyddu a’r cafnau lliwio hefyd. Er mai adeilad bach iawn oedd ganddynt, roedd yn bosibl mynd trwy’r holl brosesau oedd yn troi cnydau yn wlanen cain yno.

Pan ddaeth y rheilffyrdd i’r ardal, roedd yr ardal yn elwa mewn nifer o ffyrdd, ond roedd hefyd yn dod â nwyddau rhatach o’r tu allan ac yn y diwedd roedd melinau fel Esgairmoel wedi gorfod cau lawr. Symudwyd Esgairmoel i Amgueddfa San Ffagan, ac mae’r felin yn dal i weithio yno heddiw.

 
 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth Llanwrtyd