Llanwrtyd a’r Cylch
Y Porthmyn
  ‘Ffyrdd’ y porthmyn ar y mynyddoedd  
 

Roedd y porthmyn yn defnyddio’r ffordd fyrraf bosib, weithiau’n mynd dros dir gwyllt iawn ar yr ucheldiroedd. Roedd y porthmyn yn dal i ddefnyddio’u llwybrau eu hunain hyd yn oed ar ôl i’r ffyrdd go iawn dechrau ymddangos yng Nghymru.
Ar ôl adeiladu ffyrdd tyrpeg, roedd yn fusnes drud iawn symud llawer o anifeiliaid trwy’r tollbyrth, ond roedd y ‘ffyrdd’ dros y mynyddoedd yn rhad ac am ddim. Ac ar ben hyn, roedd y llwybrau yn achosi llai o draul ar draed yr anifeiliaid na ffyrdd caled y blynyddoedd diweddarach. Tra eu bod yn symud yr anifeiliaid, weithiau am wythnosau ar y tro, roedd angen llefydd i orffwys a bwyta ar y dynion a llefydd i bori ac yfed a phedoli ar yr anifeiliaid.

Dw i ddim yn meddwl lot
o’r ffordd, ond o leiaf
dydy hi ddim yn costio
dim byd! !
Tafarn y Porthmyn i’r gogledd o Aberhonddu ar yr Epynt. Man aros oedd yr hen dafarn hon ar y ffordd i Loegr

Hefyd ar hyd y daith, roedd nifer o dafarndai yn bodoli er mwyn cyfarfod ag anghenion y porthmyn wrth eu gwaith. Roedd rhai yn rhan o fferm oedd yn darparu ystafelloedd, bwyd a chwrw neu seidr. Roedd tafarndai’r porthmyn hefyd mewn llefydd diarffordd iawn, ac ar yr un safle byddai clostiroedd i’r anifeiliaid gwahanol ac efail i’r gof. Byddai’r prif borthmyn yn cysgu yn y dafarn dros nos, ond byddai’n rhaid i’r rhai oedd yn ei helpu aros tu allan i edrych ar ôl yr anifeiliaid.
Doedd y porthmyn ddim yn cael symud anifeiliaid ar ddydd Sul, felly syth ar ôl canol nos y noson honno, byddai dipyn o swn wrth i’r porthmyn dechrau ar eu taith hir unwaith eto.
Dyma’r bedwaredd dudalen ar y porthmyn - mae mwy ar y dudalen nesaf….

Mae llawer o ‘gaeau dimai’ yng Nghymru - cawsant eu henw o’r pris a godwyd am ganiatáu i anifeiliaid y porthmyn bori ar eu ffordd i Loegr.
 
  Esgidiau i’r anifeiliaid…  
 


.