Llanwrtyd
a’r
Cylch
Y Porthmyn
|
Esgidiau
i’r buchod, esgidiau caled i’r moch… |
|
|
Yr
anifeiliaid mwyaf gwerthfawr yn yr orymdaith hir o ddynion, cwn, a da
byw oedd y gwartheg bach duon Cymreig. Brîd hynafol
cynhenid oedd hwn, ac roeddynt yn anifeiliaid cryf iawn oedd
yn gallu byw ar dir pori gwael yn yr ucheldiroedd. Ar ôl cyrraedd Lloegr,
byddent yn codi pwysau’n gyflym iawn ar y tir gwell.
Roedd taith y porthmyn o Gymru i Loegr weithiau cymaint â channoedd o
filltiroedd, ac yn gallu cymryd hyd at dair wythnos. Roedd yn rhaid iddynt
sicrhau bod yr anifeiliaid mewn cyflwr da iawn wrth gyrraedd pen eu taith
fel eu bod yn gallu cael pris da yn y farchnad. Byddent yn cerdded yn
araf ond yn gyson ar eu taith, a byddent yn cael seibiant
yn rheolaidd i orffwys a phori.
Ond roedd gan y porthmyn ffordd arall o gadw eu da byw mewn cyflwr da,
a byddai llawer o’r anifeiliaid yn yr orymdaith hir yn gwisgo esgidiau
arbennig!
|
|
Beth?
Ydych chi’n dweud
fod yn rhaid i ni GERDDED
yr holl ffordd i Loegr?
|
|
|
Roedd hyd yn
oed y gwyddau yn cael rhywbeth i warchod
eu traed. Cymysgedd o dar meddal a thywod oedd hyn, a byddai’r gwyddau
yn cerdded trwy’r cymysgedd cyn dechrau ar eu taith. Ar ôl caledu
byddai hyn yn ffurfio croen ar eu traed. Weithiau byddai’r porthmyn
yn gosod troed metel yn y tar fel ystudfachau
byr iawn! |
|
lluniau
gan
Rob Davies
|
Esgidiau haearn oedd yn mynd ar draed
y gwartheg duon Cymreig, yn debyg i hanner pedol,
ac
roedd darnau bob ochr i’r carn fforchog.
Roedd enw arbennig ar yr esgidiau hyn - "cues", ac weithiau roedd yn rhaid
rhoi esgidiau newydd ar yr anifeiliaid yn ystod y daith dros dir anwastad
iawn, ac yn aml byddai gof yn teithio gyda’r porthmyn. Byddai’r moch yn
gwisgo esgidiau bach gwlanog â gwaelod lledr
ar bob troed. Daeth y traddodiad anhygoel hwn i ben yn fuan ar ôl i’r
rheilffordd gyrraedd rhai ardaloedd yn yr 1860au, ac roedd y da byw yn
mynd i’r farchnad yn gyflym mewn wagenni ar y rheilffordd. Roedd rhai
pobl yn dal i ddefnyddio llwybrau’r porthmyn i symud anifeiliaid i farchnadoedd
lleol am ychydig o amser, ond erbyn heddiw yr unig atgofion
am yr hen lwybrau hyn yw enwau’r tafarndai a’r caeau.
|
|
|