Llanwrtyd a’r Cylch
Ennill bywoliaeth
  Cloddio yn yr ardal  
 

O dan fynyddoedd gwyntog gogledd orllewin sir Frycheiniog mae gwythiennau o fwnau, yn enwedig plwm. Am gyfnod yn hwyr yn y 18fed ganrif ac yn gynnar yn y 19eg ganrif byddai dynion yn gweithio o dan y ddaear mewn siafftau a thwnneli er mwyn cyrraedd y mwnau. Er bod y pyllau hyn ar raddfa fach, roeddynt yn bwysig i’r ardal yn ystod blynyddoedd cynharaf teyrnasiad Fictoria.

 
  Mae’r pwll plwm yn Nant-y-brain i’r de orllewin o Abergwesyn yn nodweddiadol o’r pyllau anhysbys yma. Yn yr 1840au roedd y plwm yn edrych yn addawol iawn, ac roeddynt yn gobeithio gwneud ffortiwn. Ar adeg y Nadolig yn 1846, rhoddodd y rheolwr Mr Couch wledd o fustach wedi’i rhostio i’r dynion a chwe chasgen o gwrw da. Roedd rhai o’r dynion wedi cael profiad yng Nghernyw ac wedi dod yno yn arbennig i weithio. Roeddynt yn byw mewn llety ar ffermydd lleol, neu mewn adeilad cyfagos Pengwaith, oedd yn debyg i farics. Mae’n rhaid bod byw mewn lle mor anhysbys â hyn yn anodd iawn, ac roedd ymladd yn gyffredin. Un tro, cafodd un o’r dynion ei ladd ar ôl ffrae! Ni chafwyd hyd i gymaint o blwm ag yr oeddynt wedi gobeithio, ac roedd cludiant yn anodd ac yn ddrud yn yr ardal yma. Bu’r pwll yn ceisio llwyddo am nifer o flynyddoedd, ond yn y diwedd caeodd yn 1876.
  Mae’r map uchod yn dangos dau o’r pyllau lleol ac yn rhoi syniad inni o’r tirlun mynyddig o’u cwmpas. Roedd y pwll yn Cefn Coch yn cynhyrchu plwm a chopr. Roedd pyllau hefyd yn Nant Gyrnant, Cynnant Fach, ac i’r gogledd dwyrain dros y mynyddoedd, roedd 3 pwll yng nghwm anhysbys Rhiwnant ym mhlwyf Llanwrthwl  
 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth Llanwrtyd