Llanwrtyd a’r Cylch
Ennill bywoliaeth
  4. Masnachwyr: R - W  
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf

Mae’r darn yma o Gyfeirlyfr Kelly yn 1895 yn dangos sut roedd pobl leol yn addasu eu bywyd gweithio er mwyn gwneud y gorau o gyfleon oedd yn dod o’r ffynnon newydd yn Llanwrtyd.

Sylwch fod John Richards, plastrwr, Margaret Thomas, groser, Christmas Williams, adeiladwr, Lewis Williams, teilwr a Rees Williams y gof i gyd wedi gosod ystafelloedd i ymwelwyr. Byddai eu busnesau traddodiadol wedi dod â bywoliaeth iddynt dros y gaeaf pan roedd y dref yn dawel.

Sylwch fod dau grydd (y ddau o’r enw David Williams) hefyd yn helpu i redeg lletyau..

 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth Llanwrtyd