Llanwrtyd a’r Cylch
Ennill bywoliaeth
  2. Masnachwyr: H - M  
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf

extract from Kelly's DirectoryMae’r nodiadau nesaf ar gyfer Llanwrtyd yn 1895 yn dangos eto sut roedd y gymuned leol yn darparu i’r ymwelwyr. Yn y darn yma mae nifer o bobl leol yn gwneud bywoliaeth trwy rentu ystafelloedd neu yn rhedeg gwestai a gwestai bach.

Weithiau byddai crefftwyr lleol yn gorfod gwneud mwy nag un peth er mwyn dwyn dau ben llinyn ynghyd, ac roedd hyn yn gyffredin mewn ardaloedd gwledig lle’r oedd y boblogaeth yn fach. Yma mae Rhys Benjamin Jones a John White Moreton yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau. Melinwr yw Mr James, ac mae hefyd yn
rhentu ystafelloedd ac yn delio mewn deunyddiau
adeiladu a ffermio.

  Erbyn 1895 roedd ffotograffiaeth yn ffordd bwysig iawn o gofnodi digwyddiadau. Roedd ffotograffwyr yn y rhan fwyaf o lefydd gwyliau a byddent yn tynnu lluniau ymwelwyr am dâl, ac yma gwelwn Henry Mortimer yn ennill bywoliaeth trwy dynnu lluniau o bobl oedd yn ymweld â’r ffynnon.spa.  
 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth Llanwrtyd