Llanwrtyd
a’r
Cylch Roedd llawer o borthmyn hefyd yn
ffermio neu’n cadw tafarn yn ogystal â delio mewn da byw, a doedd neb
yn cael gwneud hyn heb drwydded. Roedd
yn rhaid i chi fod yn berchen ar dy, bod dros 30 oed, ac yn briod cyn
cael gwneud cais am drwydded porthmon. Gan fod y porthmyn yn edrych ar
ôl cannoedd o anifeiliaid gwerthfawr,
roedd yn rhaid iddynt gael eu harchwilio’n
fanwl; ac roedd bywoliaeth nifer o
ffermwyr a phobl eraill yng Nghymru yn dibynnu ar sgiliau a gonestrwydd
y porthmyn. Yn ystod eu hymweliadau rheolaidd â Lloegr, byddai pobl yn
gofyn iddynt dalu rhent drostynt i berchnogion oedd yn byw yn Llundain,
a materion eraill oedd yn ymwneud dim â’r farchnad dda byw. Roedd y porthmyn,
fodd bynnag yn cael eu talu’n hael am eu gwaith o’u cymharu
â gweithwyr eraill ym myd amaethyddiaeth. Yn anterth y fasnach yn yr 1840au
a’r 1850au roedd rhai o’r gwerthwyr da byw gorau yn cyflogi
hyd at 20 o borthmyn yr un. Pan fyddai gorymdaith
o ddynion ac anifeiliaid yn croesi mynyddoedd diarffordd yn araf, roedd
yna berygl o ymosodiad, a lladron
yn dwyn arian oddi wrth y porthmyn. Oherwydd hyn y sefydlwyd banciau yng
Nghymru i ddarparu arian i brynu’r anifeiliaid yn lleol cyn dechrau ar
eu siwrnai hir, ac i ddelio â symiau mawr o arian ar ôl gwerthu’r da byw
yn Lloegr. Enw un o’r banciau hyn oedd y ‘Banc
yr Eidion Du’ oherwydd y cysylltiadau
gyda’r porthmyn.
Y Porthmyn
Oes
gennych drwydded?
Rob Davies
Trwy eu cysylltiadau masnachu yn Llundain, a threfi eraill yn Lloegr,
roedd y porthmyn yn gallu lledu newyddion
a hanesion yn ôl i Gymru ar adeg pan roedd dulliau
cyfathrebu yn wael iawn.
Dyma’r drydedd dudalen ar y porthmyn. Mae mwy amdanynt ar y dudalen nesaf
…
Llwybrau’r
mynyddoedd oedd yn troi’n ‘ffyrdd’
.