Llanwrtyd a’r Cylch
Y Porthmyn
  Mae’r porthmyn ar y ffordd…  
lluniau gan
Rob Davies

Dychmygwch ddynion ar geffylau bach cryf neu yn cerdded i yrru cannoedd o anifeiliaid ar hyd llwybrau diarffordd Drovers at worky mynyddoedd mewn gorymdaith enfawr ac araf. Gall yr anifeiliaid ymestyn am hyd at hanner milltir, a byddai’n cynnwys gwartheg duon bach â chyrn llydan, defaid, moch a hyd yn oed gwyddau mewn rhes. Byddai corgwn bach Cymreig yn dilyn sodlau’r gwartheg i’w cadw i symud yn rheolaidd, a byddai dynion â ffyn yn cerdded wrth ochrau’r anifeiliaid i’w cadw ar y llwybr iawn.
Yr olygfa drawiadol hon oedd siwrnai’r porthmyn, hen arfer ers cannoedd o flynyddoedd ond a fyddai’n dod i ben yn oes Fictoria oherwydd dyfodiad y rheilffyrdd. Wedyn, roedd yn haws ac yn gyflymach i lwytho’r da byw ar wagenni a’u gyrru i’r farchnad ar y trên.

 
  Welsh corgi.
Ci gweithio oedd y Corgi Cymreig, a’i brif waith oedd bugeilio gwartheg. Byddai’n gweithio mewn hanner cylch tu ôl i’r gwartheg, ac yn brathu sodlau’r buchod i’w symud, yn lle mynd i bob ochr o’r anifeiliaid fel y byddai cwn defaid. Roedden nhw’n heini, ac yn gallu osgoi’r buchod yn cicio gan eu bod mor isel ar eu coesau bach byr.
 

Y rheswm am yrru’r anifeiliaid hyn ar eu teithiau hir ar draws gwlad oedd eu bod wedi cael eu prynu’n weddol rhad o ffermydd a marchnadoedd lleol yng ngogledd a gorllewin Cymru. Roedd angen eu symud wedyn i’w perchnogion newydd cyfoethog Saesneg, yn Henffordd, a Chanolbarth Lloegr, ac weithiau mor bell â Chaint. Dros y blynyddoedd mae’r llwybrau sydd wedi gweld traed miloedd o anifeiliaid wedi cael eu henwi’n ffyrdd y porthmyn – er roedd llawer ohonynt yn anaddas i gert a cheffyl ar y pryd. Mae un o’r llwybrau mwyaf pwysig hyn yn mynd trwy Abergwesyn o’r gorllewin tua’r dwyrain, ychydig o filltiroedd i’r gogledd o Lanwrtyd.
Mae pum tudalen ar hanes gwaith y porthmyn. Mae mwy o wybodaeth ar y dudalen nesaf…

Ar ôl i’r porthmyn gwerthu’r anifeiliaid yn Lloegr, yn aml byddent yn anfon eu corgwn bach adref ar eu pennau eu hunain. Os oeddent gannoedd o filltiroedd o’u cartref, roeddent yn gallu ffeindio eu ffordd adref!
  Mwy o wybodaeth am yrru’r gwartheg…  
 


.