Llanwrtyd a’r Cylch
Y Porthmyn
  Rhowch eich da byw dan glo!  
 

Byddai ffermwyr lleol yn cael digon o rybudd pan fyddai’r porthmyn gyda’u ceffylau a chwn yn symud eu gorymdaith o wartheg, defaid, moch a gwyddau yn araf dros y bryniau. Byddai’r anifeiliaid yn gwneud dipyn o swn wrth gwrs, ond byddai’r porthmyn yn galw ac yn gweiddi wrth nesáu ar ffermydd neu at dda byw oedd yn pori yn rhydd ar y mynyddoedd!
Dyma’r rhybudd i berchnogion symud eu hanifeiliaid o’r ffordd, neu fyddai’n anodd iawn eu cael yn ôl os oeddynt yn mynd i blith anifeiliaid y porthmyn.

 

Dyma lwybr
hen ffordd y porthmyn rhwng Abergwesyn a Beulah.
Section of relief map
 

Yn y llun uchod mae amcan o un o lwybrau mwyaf pwysig y porthmyn o’r gorllewin tua’r dwyrain ar draws Canolbarth Cymru. Sheep flockDyma ddarn o fap Yr Arolwg Ordnans o 1905, ac mae llwybr y porthmyn o Dregaron i Abergwesyn ac ymlaen heibio i Beulah mewn lliw gwyn. Roedd y llwybr yn parhau o Beulah tua’r Bont Newydd – rhan bwysig arall ar y ffordd i Loegr.
Roedd y porthmyn a’u hanifeiliaid yn cael effaith fawr ar drefi bach a phentrefi ar hyd y ffordd. Wrth gyrraedd tref neu bentref, byddent yn cadw sðn mawr, byddai’r masnachwyr lleol yn brysur, a’r tafarndai’n llawn wrth i bobl leol taro bargen â’r porthmyn – byddai’r rhain yn dwyn ffrwyth yn ddiweddarach ar eu taith. Dyma’r ail dudalen o bump am y porthmyn – cewch weld mwy ar y dudalen nesaf…

  Mae angen trwydded i fod yn borthmon…  
 


.