Llanidloes
Mapiau Fictoriaidd
  Caersws yn 1836 (ac 1859!)
Geirfa
 

Mewn ffordd mae’r map sydd ar y dudalen yma yn rhoi cyfle i ni edrych ar Gaersws ar ddwy flwyddyn wahanol ond ar yr un map! Rhan fach ydyw o fap mwy o faint a wnaed gan fesurwyr Arolwg Ordnans yn 1836 ac roedd ar werth mewn siopau llyfrau. Pan agorwyd y rheilffyrdd ar ddiwedd yr 1850’au ac 1860’au yr hyn oedd yn rhaid i adran yr Arolwg Ordnans wneud oedd ychwanegu llinell i’r map cynharach.

anheddiad – lle i fyw, cartref, ty
 
 
 

Caersws yn 1836

 

Mae’r map yn dangos i ni fod cysylltiadau cludiant wedi bod yn bwysig i Gaersws ar hyd y blynyddoedd. Sefydlwyd y pentref gyntaf yn ystod yr oes Rufeinig a hynny mewn man lle’r oedd dwy ffordd yn cwrdd a hefyd mewn man oedd yn croesi’r afon. (Gallwch weld amlinelliad o’r anheddiad Rhufeinig ychydig i’r dde o’r rheilffordd sydd ar y map)
Y ddwy ffordd oedd – y ffordd lawr dyffryn Hafren, ac yna’r llwybr trwy’r mynyddoedd tua’r Gogledd Orllewin trwy Garno ac ymlaen i’r arfordir. Ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria roedd yna ffyrdd tyrpeg ar hyd y ddwy ffordd yma. (Edrychwch ar dudalennau cludiant Llanidloes am fwy o fanylion). O ganol ei theyrnasiad roedd llinellau rheilffyrdd wedi’u hadeiladu ar eu hyd.

 
  Caersws yn 1903..  
 

Yn ôl i ddewislen map Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanidloes