Llanidloes
Mapiau Fictoriaidd
Caersws yn 1903 |
Geirfa
|
|
Mae’r map yma wedi dod o fap a gynhyrchwyd yn 1903 gan yr Arolwg Ordnans. Mae’r map yn fawr ac felly’n dangos mwy o fanylion. Dyma sut roedd Caersws yn edrych ar ddiwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Os wnewch gymharu’r map yma gyda’r map o Gaersws yn 1836 gallwch weld nad yw siâp y pentref wedi newid rhyw lawer. Ceir rhai arwyddion o newid yma serch hynny. |
Anghydffurfiol – yn dymuno mynd i addoli mewn capel yn hytrach na mewn eglwys | |
Ar
wahân i’r brif linell rheilffordd sy’n mynd i gyfeiriad y Gogledd Orllewin
tuag at arfordir Cymru, gallwch hefyd weld rheilffordd fach yn mynd tua’r
Gorllewin heibio i orsaf nad yw’n cael ei defnyddio. Adeiladwyd y rheilffordd
fach hon yn arbennig i ddod â phlwm
o weithfeydd Y Fan.
Mae’r ddwy reilffordd yn cwrdd yn y man lle nodir ‘Caersws Junction’. Byddai’r rheilffyrdd yma yn cyflogi clercod, porthorion, cludwyr a dynion signal. |
||
Mae yna ysgol
yn y pentref nawr (wedi’i nodi Sch.
ar y map). Roedd hyn yn golygu fod plant ysgol lleol yn cael addysg a chyfleoedd
newydd wedi iddynt dyfu. Ar wahân i’r eglwys mae yna dri chapel (Ch.) arall wedi‘u nodi ar y map. Mae hyn yn dangos fod yna gynnydd yn nifer y bobl Anghydffurfiol yn y gymuned oedd am addoli yn eu ffordd eu hunain. |