Llanidloes Ar ddechrau cyfnod Fictoria roedd
y gwehyddion gwydd llaw yn profi gwir galedi
yn yr ardal. Roedd y rheini oedd yn gweithio gartref yn gweld
mai swm bychan iawn o dalwyd iddynt gan fasnachwyr defnydd oedd yn prynu’r
deunydd gorffenedig. Aeth rhai ohonynt i drafferthion a gorfodwyd iddynt
roi’r gorau i’w hannibyniaeth a mynd i weithio mewn siop wehyddu am gyflog
gwael. Yn y siopau gwehyddu newydd roedd
eu safon byw yn dibynnu ar y meistr gwehyddu a roddodd gwaith iddynt.
Sefydlodd llawer o’r meistri gwehyddu siopau ar gyfer eu gweithwyr a’u
talu â thocynnau yn hytrach nag arian
(gweler uchod). Dim ond yn siopau’r
cwmni oedd y gweithwyr yn gallu gwario’r tocynnau yma ac roeddynt yn gorfod
talu prisiau uchel dros ben, prisiau oedd yn cael eu gosod gan y meistri.
Pan agorwyd yr ysgolion newydd yn Llanidloes gwelodd llawer o weithwyr
nad oeddynt yn gallu anfon eu plant gan nad oeddynt yn gallu fforddio
talu’r ffi o geiniog yr wythnos. Roedd gwehyddion dyffryn Hafren yn
flin iawn ynglyn â’r sefyllfa ac yn awyddus i osgoi’r tlotai newydd caled.
Daeth llawer o’r rhain yn Siartwyr,
gan gymryd rhan yn y protestiadau a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod. (Gweler
y tudalennau ar Siartwyr Llanidoes).
Y
diwydiant gwlân
Gweithio
i feistr caled
Tocynnau
trwy ganiatâd
caredig Mr Cyrus Meredith
.