Ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines
Fictoria roedd y gwaith o wehyddu’r gwlannen yn cael ei wneud gan wydd
llaw o hyd. Roedd gwehyddion medrus yn gwneud y gwaith mewn
bythynnod a ffermdai ar draws yr ardal yn y gaeaf. Yna byddai’r gwehyddion
yn ennill bywoliaeth ar y tir yn yr haf.
Wrth i’r diwydiant dyfu yn yr ardal,
dechrewyd gwneud gwaith gwehyddu ei hunan yn Llanidloes gan adeiladu bythynnod
yn arbennig ar gyfer y gwehyddion. Roedd adeiladu’r gamlas i fyny dyffryn
Hafren i’r Drenewydd yn golygu bod gwlanen Llanidloes ond yn gorfod cael
ei gludo yno yn hytrach na’r holl ffordd i’r Amwythig. Dyma ddatblygiad
pwysig arall i’r diwydiant.
|