|
Mae
Cyfeirlyfr Pigot ar Ogledd Cymru,
1835 yn rhoi darlun i ni o bwysigrwydd y diwydiant yn yr ardal. Mae’r
rhestr sydd gyferbyn yn dangos gwneuthurwyr gwlannen yr ardal ar ddechrau
teyrnasiad Fictoria. Gwehyddion yn gweithio adref fyddai rhai o’r rhain.
Erbyn y cyfnod yma roedd siopau gwehyddu
yn cael eu sefydlu lle’r oedd sawl gweithiwr yn gweithio gyda’i gilydd
mewn un gweithdy i feistr gwehyddu. Roedd Lucas
Yard (gweler dde) yn Stryd y Dderwen Fawr yn un o’r rhain roedd
llawer o’r rhai eraill ar y rhestr fwy na thebyg hefyd yn siopau gwehyddu.
Nid ffatrïoedd oedd y rhain gan nad oedd y periannau gwehyddu yn cael
eu troi gan olwynion dwr nac injan stêm, ond dyma oedd y cam cyntaf tuag
at fecaneiddio.
|
Pannu
– golchi’r gwlân â phridd er mwyn ei lanhau a’i wneud yn fwy trwchus |