Llanidloes
Bywyd ysgol
  Sioe luniau Fictoraidd  
 

Fe wnaeth pobl oes Fictoria ddyfeisio llawer o bethau newydd, ond ni aethant mor bell â dyfeisio’r sinema na’r deledu. Picture from early glass slideYn ystod yr 1880’au roedd pobl yn ceisio dangos lluniau oedd yn symud, ond roedd hyd yn oed lluniau llonydd oedd yn cael eu taflu ar wal neu ar sgrîn yn anghyffredin ac yn gyffrous i’r rhan fwyaf o bobl.

Roedd y ‘Magic Lantern' yn fath cynnar o daflunydd sleidiau a ddefnyddiwyd i ddangos ffotograffau du a gwyn a brintiwyd ar blatiau gwydr sgwâr. Dyma’r agosaf bryd hynny i fynd i’r sinema !

Llun sleid wydr gynnar Llun o’r 'magic lantern' ar wydr yn dangos un o gronfeydd Cwm Elan yn cael ei adeiladu yn 1901.
  School diary entryArchifdy Sir Powys
 

Fe fyddai sioeau lluniau y ‘magic lantern’ tebyg i’r un a welwch chi yma Magic lantern projectoryn ddigwyddiad arbennig i blant ysgol. Mae’r darn yma o ddyddiadur Ysgol Genedlaethol Llanidloes yn 1894 yn darllen:
"Magic Lantern Entertainment given to children on Friday evening - 'British Empire'. Scripture prizes were distributed by Vicar".

Roedd y sioe yma yn dangos lluniau’r ‘Ymerodraeth Brydeinig' yn ystod y cyfnod, gan hefyd ddangos lluniau o fywyd yn India, De’r Affrig a thiroedd eraill oedd yn cael eu teyrnasu gan y Frenhines Fictoria.
.

Nid hud yw hwnna!
Mae’r teledu yn hud!
 

Ewch i ddewislen ysgolion Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes