Llanidloes
Mapiau Fictoriaidd
  Llanidloes yn 1836 (a 1859!)  
 

Yn debyg iawn i fapiau 1836 ar gyfer Caersws a Llandinam, mae yna reilffordd wedi’i rhoi ar fap y flwyddyn honno. O’r map yma cawn syniad o sut yr oedd y dref yn edrych ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

 
  Llanidloes yn 1836  
 

Mae siâp y dref a’i strydoedd yr un fath â siâp tref yn yr Oesoedd Canol, er byddai’r tai wedi’u hailadeiladu sawl gwaith. Gallwch weld Neuadd y Farchnad ar y groesffordd yng nghanol y dref. Gallwch weld fod y dref wedi’i lleoli yn y man yma gan ei fod yn fan pwysig ar gyfer croesi dros yr Afon Hafren gyda dwy bont.

 
 

Mae’r Afon Clywedog hefyd yn rhedeg i’r Hafren ar dop chwith y map gyda ffyrdd yn rhedeg dros y tir mynyddig i Fachynlleth a Llanbrynmair. Yn 1836 byddech yn gallu teithio y ffyrdd yma ar hyd y ffyrdd tyrpeg ond os nad oeddech yn cerdded, byddai’n rhaid i chi dalu toll wrth y tollbyrth (wedi’i nodi T.G. ar y map).

Llanidloes yn 1903..

 
 

Yn ôl i ddewislen map Llanidloes
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanidloes