Llanidloes
Mapiau Fictoriaidd
Llandinam yn 1903 | ||
Mae’r darn yma yn dod o fap Arolwg Ordnans 1903 ac mae’n dangos y dref ar ddiwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Er bod llawer mwy o fanylion ar y map yma nag ar fap 1836 gallwn ddysgu llawer trwy gymharu’r ddau. |
||
Mae siâp y dref yn debyg iawn i 1836, ond mae llawer iawn mwy o dai ac adeiladau. Erbyn 1903 roedd gan y dref gyswllt gyda’r byd tu allan sef y llinell rheilffordd. Roedd hyn yn golygu fod pethau oedd yn cael eu gwneud yn lleol yn gallu cael eu gwerthu ymhellach i ffwrdd ac roedd y bobl leol yn gallu cael amrywiaeth o nwyddau yn y siopau. Roedd y cyfle i deithio wedi cyrraedd y bobl gyffredin. |
||