Llanidloes
Mapiau Fictoriaidd
Llangurig yn 1866 | ||
Mae’r map a welwch chi nesaf yn dod
o fap Arolwg Ordnans sy’n dyddio yn ôl i 1866. Er mai dyma un o’r cymunedau
mwyaf anghysbell yn Sir Drefaldwyn
yn ystod oes Fictoria mae’n safle pwysig o ran cysylltiadau.
Yn debyg iawn i Gaersws, caiff Llangurig ei leoli lle mae dwy ffordd yn
cwrdd a phont yn croesi’r Afon Gwy. |
Tollborth
yw’r T.G. a nodir ar y map lle byddai
teithwyr yn gorfod aros i dalu eu tollau os oeddynt yn dymuno defnyddio’r
ffordd. Dyma’r tollborth a ymosododd Merched
Beca arni. (Edrychwch ar dudalennau Cludiant Llanidloes). Roedd
gan adeiladwyr rheilffyrdd oes Fictoria gynlluniau crand i adeiladu rheilffyrdd
dros y wlad i gyd. Roeddynt yn llwyddiannus gan amlaf ond methu wnaeth
eu cynlluniau os oeddynt yn rhy uchelgeisiol neu afrealistig.
|
Gwnaed cynlluniau i adeiladu rheilffordd
tua’r gorllewin trwy Langurig i’r
arfordir. Byddai hyn wedi bod yn
ddrud iawn i’w adeiladu ac ni fyddai digon yn ei defnyddio i dalu am y
gost. Dim ond rhan fechan o’r llinell yma a adeiladwyd. |
||