Llanidloes
Mapiau Fictoriaidd
Llangurig yn 1903 | ||
Mae’r map yma yn ddarn o fap a gynhyrchwyd
yn 1903 gan yr Arolwg Ordnans. Mae’r
map yn fwy ac yn dangos mwy o fanylion. Gallwch weld o’r map sut yr oedd
Llangurig yn edrych ar ddiwedd teyrnasiad
y Frenhines Fictoria. |
||
Mae ysgol
yna nawr (wedi’i nodi Sch.) sy’n cynnig
addysg i blant lleol a chyfle i gael bywyd gwell. (Edrychwch ar dudalennau
Bywyd Ysgol Llanidloes). Mae’r rheilffordd a’r tollbyrth wedi mynd o’r pentref. Mae hyn yn meddwl fod y daith i’r orsaf agosaf er mwyn mynd ar siwrnai ar drên yn hirach, ond mae’r ffyrdd yn well ac nid oes yna dollau i’w talu. Mae mynwent newydd yn y pentref i’r bobl leol gladdu eu hanwyliaid yn barchus, ac mae rhywun wedi adeiladu llyn hwylio (Llyn Tanyllwyn). |
||
Ar wahân i’r eglwys mae dau gapel wedi’u nodi ar y map. Mae hyn yn dangos bod yna gynnydd yn y bobl Anghydffurfiol yn y gymuned oedd yn dymuno addoli yn eu ffordd eu hunain. | ||