Llanidloes
Trosedd a chosb
  Achos y gini aur
Glossary
 

Gerbon y llys Ym mis Hydref 1878 daeth Elizabeth Gough o Lanidloes o flaen llys y Sesiynau Chwarter yn Y Trallwng. Roedd wedi bod mewn trwbl gyda’r heddlu ddwywaith yn barod. Y tro yma fe’i cyhuddwyd o dalu â gini aur ffug.
Mae tystion yn nodi ei bod wedi ceisio newid neu wario’r arian yn y Bell Inn ac yna’r Queen's Head yn Llanidloes. Roedd y merched oedd yn gweini yn y ddau dafarn yn amheus iawn a gwrthod a chymryd yr arian a wnaethant. Yna ceisiodd wario’r arian yn siop Mrs Harris' yn Upper Green. Roedd Mrs Harris hefyd yn amheus iawn a gwrthod â chymryd yr arian a wnaeth.

Gini – ceiniog aur sydd gwerth punt a swllt (£1.05).
Tystion – pobl sydd wedi gweld yr hyn sydd wedi digwydd.
Dilys – iawn, cywir.
 
 
 

Datganiad ElizabethRoedd Elizabeth Gough yn honni fod y gemydd lleol wedi gweld yr arian ac wedi dweud ei bod yn ddilys. Doedd neb yn ei chredu a chafodd ei harestio gan Sargant Tibbald. Pan gafodd ei chwestiynu doedd ganddi ddim i’w ddweud. Mae hyn wedi’i gofnodi yn ei datganiad.
Cafwyd Elizabeth Gough yn euog o geisio newid arian ffug. Roedd eisoes wedi ei chael yn euog o ddwyn gan y llys, ac roedd y llys yn ei weld fel digwyddiad difrifol ac oherwydd hyn roedd y ddedfryd yn fwy caled fel ag y mae’r darn yma o gofnod y llys yn dangos.

 
  Darn o gofnod llys
  Mae’r darn yn darllen:
Ordered that the above named prisoner Elizabeth Gough be confined in the House of Correction for this County and there kept to hard labour for twelve calendar months.
.
 
 

Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes