Llanidloes
Bywyd ysgol
  Wedi mynd i weld y Prif Weinidog  
 

Mae llawer o enghreifftiau yn Llyfrau Cofnod Ysgolion Fictoraidd o blant yn absennol o’r ysgol am bob math o resymau.
Weithiau mae yna resymau hefyd pam fod yr athrawon i ffwrdd ! Fel arfer roedd hyn oherwydd salwch, ond weithiau roedd oherwydd fod yn well gan yr athro fod yn rhywle arall!
Ychydig iawn o gyflog oedd athrawon yn ei dderbyn y dyddiau hynny (Mae llawer o athrawon yn meddwl felly heddiw hefyd !) felly roeddynt yn fwy na thebyg o’r farn eu bod yn haeddu gwyliau bach weithiau ! n

 
School diary entryPowys County Archives
 

Mae hwn yn dod o gofnodion Ysgol Llangurig yn 1887 :William Gladstone
"A half day holiday was given on Thursday afternoon that the teacher might go to Llanidloes to have a peep at Mr Gladstone. I went, and had the satisfaction of not only seeing him but of hearing him".

William Gladstone oedd Prif Weinidog Prydain ar adegau gwahanol rhwng 1868 a 1894, er nad oedd yn brif weinidog yn 1887. Roedd yn ddyn enwog iawn yn ystod oes Fictoria, ac fe fyddai’n ei ymweliad â Llanidloes wedi bod yn achlysur arbennig iawn. Nid yw’n lawer o syndod felly fod yr athro eisiau mynd i’w weld yno !
.

A ydych chi’n gwybod
unrhyw jôcs da?
 

Ewch i ddewislen ysgolion Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes