Llanidloes
Bywyd ysgol
  Afiechydon peryglus yn lledaenu  
 

Yr ofn mwyaf yng nghymunedau oes Fictoria, gartref ac yn yr ysgol, oedd afiechydon oedd yn gallu lledaenu’n gyflym iawn. Yr enw ar hyn yw epidemig, ac roeddynt yn gyfarwydd iawn yn ystod y blynyddoedd hynny oherwydd amodau byw afiach a diet gwael o ganlyniad i brinder arian.

Mae dwy enghraifft o’r nifer o gyfeiriadau yn nyddiaduron ysgolion lleol i’w gweld yma. Maent wedi dod o Adran Fabanod Ysgol Genedlaethol Llanidloes ac yn dyddio yn ôl i 1890 a 1901, sef blwyddyn olaf teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

 
Mai 1890
darlun o arwydd cauArchifdy Sir Powys
Gorffenaf 1901
School diary entryArchifdy Sir Powys
 

Mae’r ddau ddarn yma o ddyddiadur yn darllen :
"The attendance has been very poor on account of ScarletDrawing of closure sign Fever. Several deaths have taken place in the town this week".

"Infant School. This School has suffered much from epidemics. Like the senior department it was compulsorily closed for the five weeks preceding the second visit".

Yn aml roedd yr awdurdodau meddygol yn gorchymyn cau ysgolion hyd nes bod y perygl o afiechyd yn lledaenu ymysg plant wedi mynd heibio – hyd nes bod yr epidemig nesaf yn dod !

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes