Llanidloes
Bywyd ysgol
  Lle mae’r holl athrawon?  
 

Roedd athrawon mewn ysgolion Fictoraidd bob amser yn ei chael yn anodd i gael eu disgyblion i fynychu’r ysgol yn rheolaidd.
Roedd yn rhaid i lawer o ysgolion gael canlyniadau da mewn arholiadau er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn cael digon o arian i gadw’r ysgol ar agor, ac felly os oedd llawer o’r plant yn absennol roedd hyn yn golygu eu bod yn colli gwersi ac yn cael canlyniadau gwael.
Roedd "Swyddogion Presenoldeb" fod i fynd i chwilio am blant oedd ar goll gan holi rhieni’r plant hynny oedd yn colli’r ysgol. Nid oedd y dynion hyn yn dda iawn yn gwneud eu gwaith, fel ag y mae’r darn yma o 1879 o Ysgol Genedlaethol Llanidloes yn dangos :

 
School diary entryArchidy Sir Powys

Mae’r darn o’r Llyfr Cofnod yn darllen :
"The attendance is still low and more irregular than ever. Some of the causes are 'working in the harvest' and 'getting up potatoes'. The attendance officer seems to take no trouble to enforce the attendance of children attending the school".

Yn 1895 ysgrifennodd athro Ysgol Llangurig yn y dyddiadur fod "Parents laugh when the attendance officer puts in an appearance".

Y Swyddog Presenoldeb yn galw
  Os oedd rhieni’n chwerthin a phlant hyd yn oed yn taflu cerrig atynt, yna mae’n rhaid ei fod yn waith anodd tu hwnt a di-ddiolch yn ystod cyfnod Fictoria.  
 

Ewch i ddewislen ysgolion Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes