Llanidloes
Y diwydiant gwlân
  Ffatri’r Cambrian  
 

Y felin wlanen fwyaf yn ardal Llanidloes oedd ffatri’r Cambrian a adeiladwyd yn 1852 ar lannau’r Afon Clywedog. Adeiladwyd y ffatri gan Thomas Jones ac estynnwyd y ffatri gan ei fab, oedd hefyd â’r un enw, ac aeth yn ei flaen i adeiladu Melin y ‘Spring’.

 
   
 

Mae’r ffotograff a welwch chi yn dangos y ffatri tua 1885 pan roedd tua 250 o weithwyr yn gweithio yno. Y tu ôl i’r ffatri ar y bryn gallwch weld stribedi hir o wlanen gorffenedig yn cael eu hymestyn allan ar fframiau o’r enw deintur. (Mae’r idom Saesneg "on tenterhooks" yn dod o’r arfer yma).

Ym mis Tachwedd 1889 cafwyd trychineb yn y felin pan fu bron iddi gael ei dinistio’n llwyr gan dân! Ychydig iawn oedd yr injans tân oedd yn cael eu tynnu gan geffylau, yn gallu ei wneud i ymladd tân fel yma, ac fe wnaeth sawl melin arall ddioddef yn yr un modd. Ailadeiladwyd melin Cambrian gan barhau i chwarae rhan bwysig yn y diwydiant gwalnnen. Wedi dyddiau’r diwydiant gwlanen, daeth yn waith lledr.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen y diwydiant Gwlanen