Llanidloes
Y diwydiant gwlân
  Melin y ‘Spring’  
 

Yn 1875 adeiladwyd ffatri newydd oedd yn gweithio ar stêm yn Ffordd Penygreen, Highgate, Llanidloes. Gan mai stêm oedd yn gweithio’r ffatri yn gyfan gwbl, nid oedd rhaid ei leoli ger yr afon. Adeiladwyd y ffatri gan Thomas Jones, un o’r rhai mwyaf egnïol yn y diwydiant gwlannen lleol ac roedd yn ddyn pwysig yn y diwydiant.

 
 
  Mae’r ffotograff a welwch chi yn dangos tu fewn Melin y ‘Spring’. Tynnwyd y llun tua 1890 ac mae’n rhoi syniad da i ni ynglyn â sut roedd y ffatrïoedd hyn yn edrych. Roedd yr olwynion sydd ar y nenfwd ynghlwm wrth echelau hir oedd yn defnyddio injan stêm i’w gweithio. Roedd beltiau oedd yn dod i lawr o’r olwynion yn gweithio’r perianiannau gwehyddu. Byddai’r periannau yma’n gallu cynhyrchu ddefnydd yn gyflym iawn ond roedd gweithio gyda’r periannau yma yn gallu bod yn brofiad annymunol. Roedd y fatrïoedd yn lleoedd swnllyd a daeth y gweithwyr yn dda iawn am ddarllen gwefusau!
Roedd rhai gwehyddion gwydd llaw a roddodd y gorau i’w masnach a mynd i weithio yn y ffatrïoedd yn dweud eu bod wedi newid o fod yn grefftwyr i fod yn gaeth i beriant
.
 
 

Yn ôl i ddewislen y diwydiant Gwlanen