Llanfyllin a'r cylch
Trosedd a chosb
  Trawsgludiad draw dros y moroedd  
 

Yn fuan wedi Nadolig 1839 daeth dau ddieithryn o flaen y llysoedd yn y ‘Guildhall’, Trefaldwyn wedi’u cyhuddo o ddwyn oriawr, wasgod a hances oddi wrth William Davies o Lanfihangel-yng-Ngwynfa.
Dywedodd Mr Davies wrth y llys ei fod wedi dod adref i ganfod fod rhywun wedi torri i mewn i’w dy. Dywedodd cymydog wrtho ei fod wedi gweld dau gymeriad amheus yn llercian o amgylch y lle. Dywedodd fod gan un farf goch a’r llall gap glas. Rhedodd Mr Davies i lawr y ffordd ar eu hôlau a daeth o hyd i’r ddau ddieithryn yn Llansantffraid. Aeth o’u blaenau a’u hatal gan fynd â hwy at y Cwnstabl lleol.
Mae’r darn o gofnodion y llys a welwch chi yma yn rhestru’r hyn y daeth y Cwnstabl o hyd iddynt ar y ddau ddyn.

 
  extract from court records
 

Mae’n darllen -
"A silk handkerchief, a waistcoat, a watch, which were found upon the man with red whiskers. And two rasors [razors] which were found upon the man with a blue cap."

Fe wnaeth Mr Davies adnabod ei oriawr, hances a wasgod fel ei eiddo ef.

Darn o gofnodion y llys mwy am achos y ddau ddieithryn...