Llanfyllin
Bywyd ysgol
  Fferm yn gyntaf, ysgol yn ail...  
 

Nid oedd yn hawdd i gael plant i fynychu ysgol yn rheolaidd yn ystod cyfnod Fictoria. Roedd rhai yn absennol oherwydd rhesymau digon dilys megis salwch, oherwydd roedd afiechydon difrifol a pheryglus yn bethau cyfarwydd iawn bryd hynny. Ond achos dilys arall mewn ardaloedd gwledig oedd bod llawer o deuluoedd yn dlawd iawn, ac roedd arnynt angen y plant hyn i helpu gyda gwaith y fferm, yn arbennig felly ar adegau prysur fel y cynhaeaf.
Mae’r darn yma wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Bwlchycibau yn 1869...

 
10 Hydref
1869
School diary entry
Heading from log book
 

Mae’r darn yma allan o ddyddiadur yn darllen -
"The attendance at School in the morning between 9.30 am and 10.00 am is not so good as it was before the harvest time. The reason of that is : The parents tell me that owing to the scarcity of labour that they are unable to spare the elder children earlier, but they remember to let them be here in time for Marking that the School may not suffer. They come in quickly".

Yn ystod y cynhaeaf bob blwyddyn roedd bron i hanner y bechgyn hyn yn aros adref i helpu ar y ffermydd lleol, ac fe fyddai’r ysgolion gwledig yn cael eu gwyliau haf ar yr un adeg â’r cynhaeaf. Am flynyddoedd lawer rhoddwyd yr enw gwyliau’r cynhaeaf ar y rhain.
Mae yna ragor am broblemau presenoldeb mewn ysgolion Fictoraidd ar y dudalen nesaf...

Pryd mae'r plant yn dewis mae nhw'n aros yn nhre...

.