Llanfyllin
Bywyd ysgol
|
Y
pump na chollodd yr un wers ! |
|
|
Fel y gallwch weld o dudalennau eraill
ar y wefan yma, roedd cael plant i fynychu’r
ysgol yn rheolaidd yn dipyn o broblem yn ystod cyfnod Fictoria.
Heddiw mae gwobrau yn cael eu rhoi i blant sy’n gwneud yn dda yn yr ysgol,
ond roedd yn rhaid i rai ysgolion roi gwobrau am ddod i wersi ! Mae’r
darn a welwch chi yma o Lyfr Cofnod wedi dod o Ysgol
Llangynog yn 1897...
|
|
12
Chwefron
1897
|
|
"On
Monday evening the School Concert was held. The Rev.W.L.Evans, Chairman
of the Board presided. Prizes were distributed to 22 boys and 20 girls who
made more than 370 attendances during the last year. Extra prizes were awarded
to 5 scholars who were present each time the school was opened". |
|
Roedd nifer y plant oedd yn
bresnnol, bob amser yn cael eu cyfrif ar wahân ar gyfer dosbarthiadau’r
bore a phrynhawn, oherwydd roedd llawer o’r plant oedd yn byw ger yr ysgol
yn mynd adref i ginio ac wedyn ddim yn dod yn
ôl yn y prynhawn !
Mae darn arall o ddyddiadur Ysgol Llangynog yn 1896
yn atgof da o sut yr oedd yn rhaid i’r ysgolion cynnar wneud y tro gyda
dosbarthiadau ag ychydig iawn o offer ynddynt. Mae hwn yn sôn am ymwelydd
swyddogol â’r ysgol oedd yn synnu eu bod yn defnyddio darnau
o lechi oedd wedi torri ar gyfer ysgrifennu arnynt...
|
|
6
Tachwedd
1896
|
|
|
|
Mae’r darn yma o
Lyfr Cofnod yn darllen -
"He recommended that only framed slates be
used and that only whole ones be used, all pieces to be discarded."...
Yn bendant nid oedd defnyddio llechi wedi torri
oedd ag ymylon miniog yn syniad da i blant. Mae ysgolion wedi
newid llawer ers y dyddiau hynny !
Yn ôl i ddewislen
ysgolion Llanfyllin
|
|
|
|
|